Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Llychlys tywyll (enw gwyddonol: Marchesinia mackaii; enw Saesneg: MacKay's pouncewort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Porellales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida. Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru a ledled y byd. Mae M. mackaii yn tyfu mewn cytrefi o egin gwastad tebyg i bryfaid genwair, sy'n gorchuddio creigiau. Ceir coesynnau sydd fel arfer yn ddu ac maent hyd at 5 cm o hyd a 4 mm o led. Mae'r dail yn grwn.
Developed by StudentB